To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

bible this week

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn dilyn trefn benodol o ddarlleniadau o’r Beibl bob Sul.

Bob wythnos, bydd person gwahanol yn cynnig myfyrdod byr ar ddarlleniadau’r Sul dilynol yn Beibl yr wythnos hon.

cysylltau defnyddiol

rejesus.co.uk

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn aelod o Gyngor Eglwysi’r Byd.

Ein Ffydd

Mae’r Eglwys yng Nghymru yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist, yn benodol:

  • fod Duw yn weithredol ac yn bersonol, Tad sy’n gofalu am ei greadigaeth, ac am bob un o’r hil ddynol fel ei blentyn annwyl;
  • fod Duw wedi ei ddatguddio ei hun ym mherson hanesyddol Iesu Grist, a
  • thrwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr un person hwn, fod Duw wedi datgan ei gariad tuag at y byd, ac wedi agor ffordd, y gellir trwy ein ymateb mewn ffydd, ymgyrraedd ei gariad a’i fywyd a’i alluogi i dreiddio i’n bywydau.
  • fod Duw yn weithgar yn y byd heddiw, fel Ysbryd, yn ysgogi ffydd, cyfiawnder a gwirionedd
  • ein bod yn credu fod Duw wedi galw ar bawb sy’n ymateb iddo i fod yn bobl iddo, ac i weithio gyda’u gilydd fel llysgenhadon i’w waith o iacháu yn y byd.

crossMae hyn yn Newyddion Da, oherwydd ei fod yn ein annog bob un i sylweddoli fod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod â iachâd i’r byd. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i rannu’r Newyddion Da hwn.

Dilynwch y cysylltau i gael gwybodaeth bellach am  yr hyn a gredwn, gweddïo a iacháu.