To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

STRWYTHUR

Mae i’r rhan hon o’r wefan nifer o adrannau yn disgrifio’r amrywiol adrannau sy’n cyfrannu at strwythur yr Eglwys yng Nghymru:

Esgobion

Ewch i’r adran hon os ydych yn dymuno gwybod:

  • beth yw Archesgob neu Esgob

  • sut y mae Esgob neu Archesgob yn cael ei ddewis

  • beth yw gwaith Mainc yr Esgobion

Clerigion

Ewch i’r adran hon os ydych yn dymuno gwybod:

  • sut i gysylltu â chlerig

  • pwy sydd â gofal dros eich eglwys leol

  • sut i gyfarch neu gyfeirio at glerig

Esgobaethau

Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ei rhannu’n chwech ardal weinyddol a elwir yn esgobaethau. Mae yn yr adran hon:

  • fanylion cyswllt pob esgobaeth

  • cysylltiadau â gwefannau’r chwech esgobaeth

Plwyfi

Ewch i’r adran hon os ydych yn dymuno:

  • dod o hyd i’r manylion am eglwys yn eich cymdogaeth

  • dod o hyd i wefan eglwys

Corff Llywodraethol

Y Corff Llywodraethol yw’r corff sy’n gweithredu fel senedd Yr Eglwys yng Nghymru. Ewch i’r adran hon os ydych yn dymuno:

  • dod o hyd i fanylion penderfyniadau a wnaed mewn cyfarfodydd diweddar

  • lawr-lwytho papurau neu edrych ar agendâu cyfarfodydd sydd eto i ddod

  • cael gwybod a ydych yn gymwys i geisio cael eich ethol yn aelod o’r Corff Llywodraethol

Corff y Cynrychiolwyr

Corff y Cynrychiolwyr sy’n gofalu am asedau’r Eglwys yng Nghymru. Ewch i’r adran hon os ydych yn dymuno:

  • dod i wybod am yr hyn y mae Corff y Cynrychiolwyr yn ei wneud

  • dod i wybod am aelodaeth Corff y Cynrychiolwyr

Cadeirlannau

Cadeirlannau: Ewch i’r adran hon i ddarganfod mwy am chwe chadeirlan Cymru.

Y Swyddfeydd Taleithiol

Yn 39 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, y lleolir prif swyddfeydd gweinyddol y dalaith. 

map showing 39 cathedral roadMae’r cyfeiriad a’r manylion cyswllt llawn fel a ganlyn:

39 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9XF

ffôn: 029 2034 8200
ffacs: 029 2038 7835

Gellir cyrraedd maes parcio 39 Heol y Gadeirlan o’r lôn gefn y tu ôl i’r adeilad - rhwng Talbot Street a Hamilton Street, fel y nodir gan y saeth yn y diagram uchod.

Mae dau fynediad i’r adeilad: y naill o’r maes parcio a’r llall o’r stryd.

Cliciwch yma i weld cyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y swyddfa o’r M4 neu o Orsaf Reilffordd Ganolog Caerdydd.

Beth sy’n digwydd yn y swyddfeydd taleithiol?

Mae’r staff taleithiol yn darparu cymorth proffesiynol i waith y Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr, Mainc yr Esgobion a Chynghorwyr yr Esgobion, ac yn rheoli gwaith y grwpiau hyn o ddydd i ddydd. Mae’r staff yn darparu cymorth hefyd yn ôl y galw, i gydweithwyr yn yr esgobaethau ac i’r Esgobion, yn arbennig felly ym meysydd Technoleg Gwybodaeth ac Adnoddau Dynol. 

Am resymau hanesyddol, gweinyddir hefyd o’r swyddfa daleithiol rai cronfeydd/elusennau, megis y Gymdeithas Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion, Cronfa Archesgob Cymru er budd Plant, a’r Gronfa Jiwbilî Daleithiol.

Yn ymarferol, mae o fudd i blwyfolion ac aelodau o’r cyhoedd fedru cysylltu â’r swyddfa daleithiol yn y lle cyntaf os oes ganddynt ymholiad ar unrhyw fater yn ymwneud ag:

  • Eiddo

    • prynu, gwerthu a rheoli persondai, adeiladau eglwysig, neuaddau eglwysi a darnau eraill o dir; a darparu cyngor i blwyfi ar edrych ar ôl adeiladau eglwysig neu fynwentydd, yn arbennig pan fo angen i’r gofal hwnnw gydymffurfio â deddfwriaeth megis y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a gofynion iechyd a diogelwch eraill; 

  • Cyllid
    • gan gynnwys talu cyflogau offeiriaid, pensiynau a budd-daliadau eraill, a rheoli cronfeydd taleithiol yr Eglwys a rhai buddsoddiadau a chronfeydd a chymynroddion ar ran plwyfi.
  • Materion cyfreithiol
    • megis rhoi cymorth a chyngor i blwyfi ac esgobaethau ar rychwant eang o faterion cyfreithiol gan gynnwys anghydfodau.
  • Gwybodaeth
    • am bob agwedd ar waith yr Eglwys, er enghraifft manylion cyswllt clerigion, lleoliad adeiladau eglwysig, ystadegau mynychu a rhoi.  Mae’r adran hon yn ymwneud hefyd â gweithredu Polisi Diogelu Plant yr Eglwys ac yn prosesu  gwiriadau ar glerigion a gwirfoddolwyr trwy’r Swyddfa Gofnodion Troseddol.
  • Cymorth Ysgrifenyddol
    • sy’n gwasanaethu cyfarfodydd rheolaidd y Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr a Mainc yr Esgobion.
  • Cynghorwyr yr Esgobion
    • yn atebol i Fainc yr Esgobion am waith ym meysydd Cyfathrebu, Yr Eglwys a Chymdeithas, Materion Eglwysig ac Addysg.
  • Cyhoeddiadau
    • cedwir cyhoeddiadau litwrgaidd ac eglwysig, gan gynnwys llyfrau gweddi a deunyddiau eraill ar gyfer gwasanaethau. (Am ragor o fanylion am y deunyddiau sydd ar gael ewch i’r Siop)

Gellir cysylltu â phob un o’r adrannau hyn yn y cyfeiriad, y rhif ffôn a’r rhif ffacs a nodir ar ben uchaf y dudalen hon, neu trwy’r cyfeiriad e-bost sydd yn gysylltiedig â gair cyntaf y disgrifiadau uchod.