To Church in Wales home page

The Church in Wales - Yr Eglwys yng Nghymru

cyfarfodydd Diwethaf

17-18 Medi, 2008
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Agenda

2-3 Ebrill, 2008
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Agenda

18-19 Medi, 2007
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Agenda

11-12 Ebrill, 2007
Prifysgol Cymru, Abertawe

Agenda

highlights

Cyhoeddir Highlights yn Saesneg yn syth ar ôl pob cyfarfod o’r Corff Llywodraethol, ac mae’n cynnwys manylion am y materion a drafodwyd a’r penderfyniadau a wnaed.

highlights

Mae ôl-rifynnau ar gael, ar ffurf testun MS Word yn unig (oddeutu 100k o ran maint), neu ar ffurf PDF (oddeutu 1mb o ran maint).

Mae’r dolennau hyn i Highlights, sy’n gyfnodolyn Saesneg.

  .doc PDF
Medi 2008 highlights Medi 2007 - fformat word highlights medi 2007 - fformat pdf
Ebrill 2008   highlights ebrill 2008 - fformat pdf
Medi 2007 highlights Medi 2007 - fformat word highlights medi 2007 - fformat pdf
Ebrill 2007 highlights ebrill 2007 - fformat word highlights ebrill 2007 - fformat pdf
Medi 2006 link to word file for sept 2006 link to pdf file for september 2006
Medi 2005 link to word file for sept 2005 link to pdf file for september 2005
Ebrill 2005 link to word file for april 2005 link to pdf file for april 2005

Y Corff Llywodraethol

Y Corff Llywodraethol sy’n gyfrifol am benderfyniadau sy’n effeithio ar Ffydd, Trefn ac Addoliad yr Eglwys. Mae ganddo hefyd y grym i greu “deddfau a rheolau ar gyfer rheoli’r Eglwys yn gyffredinol a’i llywodraethu’n dda, ac ar gyfer ei heiddo a’i negesau, at ddibenion rheolaeth a llywodraeth dda’r Eglwys.” (o Bennod II Adran 33 Cyfansoddiad Yr Eglwys yng Nghymru).

Cyfarfod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Cyfarfod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan

Y Corff Llywodraethol yw Corff Deddfu goruchaf Yr Eglwys yng Nghymru - yn fras, felly, ‘Senedd’ Yr Eglwys yng Nghymru. Fel arfer, y mae’n cyfarfod ddwywaith y flwyddyn i dderbyn adroddiadau ac i benderfynu ar faterion a roddir gerbron.

Gall y rhain fod mor amrywiol â:

  • Cyflwyno trefn newydd ar gyfer gwasanaethau (e.e. trefn 2004 ar gyfer Y Cymun Bendigaid)
  • Y penderfyniad i gysylltu’r Eglwys yng Nghymru ag Ymgyrch Rhown Derfyn ar Dlodi (2004)
  • Y penderfyniad i ganiatáu i fenywod fod yn offeiriaid yng Nghymru (1997)
  • pasio’r Bil Partneriaethau Eciwmenaidd Lleol i alluogi eglwysi lleol i sefydlu partneriaethau gydag enwadau eraill (pasiwyd yn 2005)

Os edrychwch ar y golofn ar y llaw chwith, medrwch lawr-lwytho’r rhifynnau diweddaraf o Highlights, sy’n adrodd am uchafbwyntiau pob cyfarfod. Mae modd i chwi weld yr agenda ar gyfer y cyfarfod nesaf hefyd, os ydyw ar gael.

Cyllid ac Aelodaeth

Nigel King yn cyflwyno’r adroddiad Aelodaeth a Chyllid i’r Corff Llywodraethol

Nigel King yn cyflwyno’r adroddiad Aelodaeth a Chyllid i’r Corff Llywodraethol

Bob blwyddyn mae adroddiad ar ystadegau aelodaeth a chyllid yr Eglwys yng Nghymru yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod. Mae hwn yn mynd i’r afael â gwybodaeth allweddol megis:

  • y niferoedd sy’n mynychu gwasanaethau’r eglwys
  • lefel y rhoi ariannol i’r eglwys
  • manylion am yr hyn y mae plwyfi yn gwario eu harian arno

Cyfansoddiad y Corff Llywodraethol

Mae gan y Corff Llywodraethol dair ‘urdd’. Er mai dim ond mwyafrif syml o gyfanswm yr aelodau sydd ei angen ar gyfer rhai newidiadau, mae ar y rhan fwyaf o benderfyniadau mawr angen mwyafrif ym mhob un o’r ‘urddau’. Mae’r tair urdd yn cynnwys:

  • Mainc yr Esgobion (hynny yw, y chwech esgob esgobaethol), a hefyd
  • Clerigion (68 o gynrychiolwyr o blith y clerigion)
  • Yr Aelodau Lleyg (119 o gynrychiolwyr nad ydynt yn glerigion)

Mae’r rhan fwyaf o’r cynrychiolwyr clerigol a lleyg yn cael eu hethol ar lefel esgobaethol. Os oes diddordeb gennych mewn sefyll etholiad, cliciwch yma i gael gwybodaeth am y cymwysterau angenrheidiol ar gyfer ymgeisio.

Newidiadau diweddar

Bydd newidiadau diweddar yn golygu gostwng maint y Corff Llywodraethol i gyfanswm o 144 o aelodau yn 2008.

Os oes gennych ymholiadau, neu os hoffech wybodaeth bellach, cysylltwch â johnrichfield@churchinwales.org.uk